Back to Track listing Sample of our version Full high quality podcast version!

Bachgen Bach o Dincer

Bachgen bach o dincer
Yn myned hyd y wlad,
Cario'i dwls yn dacle',
'neud ei waith yn rhad;
Yn ei law 'roedd haearn,
Ac ar ei gefn 'roedd bocs,
Pwt o getyn yn ei geg
A than ei drwyn 'roedd locs.

Potsiar peipar twigar owns agen
The potsiar o the peipar
O the knickerbocker line.
La di da di da di
Hock it on the chen,
The potsiar o ddy peipar
O ddy knickerbocker line.

Holi hwn ac arall
Ple'r aeth y tincer mwyn,
Gyda'i becyn ar ei gefn,
A chetyn dan ei drwyn.
Bachgen bach o dincer
Ni welir yn y wlad;
Mae'n golled ar ei ôl
I 'neud ei waith yn rhad.


Back to Track listing Sample of our version Full high quality podcast version!