Dwedwch fawrion o wybodaeth
Derfydd aur a derfydd arian
Hiraeth mawr a hiraeth creulon
Hiraeth hiraeth cilia cilia
O ba beth (y) gwnaethpwyd hiraeth
A pha ddefnydd a roedd ynddo
Na ddarfyddo wrth ei wisgo
Derfydd melfed derfydd sidan
Derfydd pob dilledyn helaeth
Eto er hyn ni dderfydd hiraeth
Hiraeth sydd yn torri 'nghalon
Pan fwy' drymašr nos yn cysgu...
Fe ddaw hiraeth ac a'm deffry
Paid â phwyso mor drwm arna'
Nesa' tipyn at yr erchwyn
Gad i mi gael cysgu gronyn