Back to Track listing

Mae Gen i Fuwch

Mae gen i fuwch, wynebwen lwyd, ie fyth, wynebwen lwyd,
Mae gen i fuwch, wynebwen lwyd, hi aiff i'r glwyd i ddodwy.
A'r iâr fach yn glaf ar lo, ie fyth, yn glaf ar lo,
A'r iâr fach yn glaf ar lo, nid aiff o ngho i 'leni.

   Ton ton ton dyri ton ton ton dyri
   Ton ton ton dyri ton ton ton;
   Ton ton ton dyri ton ton ton dyri
   Ton ton ton dyri ton ton.

Saith o adair man y tô, ie, adair man y tô,
Saith o adair man y tô, nid ffrai wrth daflu disiau;
A'r ddylluan a'i phig gam, a'r ddylluan a'i phig gam;
A'r ddylluan a'i phig gam, yn chwerthyn am eu pennau.

   Ton ton ton ...

Mae gen i 'sgfarnog gota goch, ie, 'sgfarnog gota goch,
Mae gen i 'sgyfarnog gota goch, a dwy gloch wrthi'n canu;
A dau faen melyn yw ei phwn, dau faen melyn yw ei phwn,
Dau faen melyn yw ei phwn, yn maeddu milgwm Cymru

   Ton ton ton ...


Back to Track listing