Huna blentyn ar y mynwes,
Huna'n dawel heno huna,
Paid ag ofni dim ond deilen,
Clyd a chynnes ydyw hon,
Breichiau mam sy'n dyn am danat,
Cariad mam sy dan fy mron;
Ni cha ddim amharu'th gyntun,
Ni wna undyn a thi gam;
Huna'n dawel, annwyl blentyn,
Huna'n fwyn ar fron dy fam.
Huna'n fwyn y tlws ei lun;
Pam yr wyt yn awr yn gwenu,
Gwenu'n dirion yn dy hyn?
Ai angylion fry sy'n gwenu,
arnat ti yn gwenu'n llon?
Tithau'n gwenu'n ol dan huno,
Huno'n dawel ar fy mron..
Gura, gura ar y ddor.
Paid ag ofni, ton fach unig
Sua sua ar lan y môr;
Huna blentyn, nid oes yma
Ddim i roddi iti fraw;
Gwena'n dawel yn fy mynwes
ar y engyl gwynion draw.